Gwynedd Mobile Milling, Melin Lifio, Ger Harlech, Gwynedd, Gogledd Cymru
Mae Gwynedd Mobile Milling GMM, ger Harlech, yng Ngwynedd, yn gwmni prosesu coed sy’n fusnes teuluol a sefydlwyd yn 2014.
Mae Gwynedd Mobile Milling GMM yn cynnig gwasanaeth melino statig a symudol ac mae’n arbenigo mewn torri coed o safon uchel, dyfwyd yn lleol ac mewn mannau eraill yng ngogledd Prydain.
Mae hyn yn cynnwys coed derw, ffynidwydd Douglas, llarwydd a chedrwydd a thorrir pob un ohonynt i gyfateb â gofynion y marchnadoedd domestig ac adeiladu.
Mae gennym dîm o seiri profiadol sy’n creu eitemau pwrpasol i ateb gofynion ein cwsmeriaid.
Cёwch bren gwerthfawr o goed wedi’u cwympo
Trawstiau, cladin, planciau a physt, wedi eu torri i’ch gofynion chi
Dodrefn a gosodion wedi’u creu i’ch mesuriadau chi o dderw Cymreig
Toeon, fframiau-A, heulfannau, decin a siediau gardd, wedi eu creu i’ch gofynion chi
Rydym yn gweithredu polisi cyrchu cyfrifol
Mae GMM Gwynedd Mobile Milling yn gweithredu polisi cyrchu cyfrifol ac mae wedi ei ardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd® (FSC®) tystiedig (FSC rhif tystysgrif TT-COC-003944.171) sy’n gwarantu rheolaeth gyfrifol ar y coedwigoedd y daw ein pren ohonynt. Mae Gwynedd Mobile Milling yn cyrchu’r rhan fwyaf o’i bren o goedwigoedd a choetiroedd a reolir yn dda yn yr ardal leol. Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn prynu coed cwympedig o safon gan berchnogion tir lleol.