Polisi Preifatrwydd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol rhyngoch chi, defnyddiwr y Wefan hon a Gwynedd MobileMilling, perchennog a darparwr y Wefan hon. Mae GMM yn parchu preifatrwydd pob ymwelydd â’n gwefan ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Mae’r polisi hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, rheoli, defnyddio a diogelu eich data personol.

Gall GMM newid y ddogfen hon o bryd i’w gilydd drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Gwiriwch i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Mae dyddiad y fersiwn ddiweddaraf wedi’i gofnodi ar waelod y polisi.

Pwy ydym ni?
Cwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr yw Gwynedd MobileMilling Ltd gyda’r rhif cwmni 08991692 a swyddfa gofrestredig yn Gwrach Ynys, Talsarnau, Gwynedd LL47 6TS.
Mae GMM yn gweithredu’r dudalen www.gwyneddmobilemilling.co.uk Byddwch yn gweld y manylion cysylltu ar y diwedd.

Efallai y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol sy’n cynnwys data personol:

  • Enw a theitl swydd, cyfeiriad a chod post
  • Gwybodaeth gysylltu gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn
  • Manylion eich ymweliadau â’n gwefan gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddata am draffig, data am leoliad, gweflogau a data cyfathrebu arall a’r adnoddau rydych yn eu defnyddio.
  • Gwybodaeth arall sy’n berthnasol i arolygon cwsmeriaid a/neu gynigion

Sut rydym yn casglu data
Rydym yn casglu data a roddir i ni gennych chi
Pan fyddwch yn cysylltu â ni drwy’r Wefan, dros y ffôn, mewn llythyr neu e-bost, ar sianelau cyfryngau cymdeithasol GMM; wyneb yn wyneb drwy gysylltiadau â phersonél GMM, gwybodaeth a gasglwyd gennym drwy ddigwyddiadau a phan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau.

Rydym yn casglu rhywfaint o wybodaeth yn awtomatig am eich ymweliad â’n Gwefan.
Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i wneud gwelliannau i gynnwys y Wefan a sut i’w llywio, ac mae’n cynnwys ein cyfeiriad IP, y dyddiad, yr amser a pha mor aml yr ydych yn defnyddio’r Wefan a’r ffordd rydych yn defnyddio ac yn rhyngweithio â’i chynnwys. Byddwn hefyd yn casglu Data yn awtomatig gan ddefnyddio Cwcis, yn unol â’r gosodiad cwcis ar eich porwr.

Beth wnawn ni gyda’r wybodaeth a gasglwn

  • Sicrhau bod cynnwys ein gwefan wedi ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi ac i’ch cyfrifiadur.
  • Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i wella ein cynnyrch a’n gwasanaethau.
  • Efallai y byddwn yn anfon negeseuon hyrwyddo drwy e-bost o bryd i’w gilydd am gynhyrchion newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall a allai fod yn ddiddorol i chi, yn ein barn ni, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost yr ydych wedi’i ddarparu.
  • O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi at ddibenion ymchwil i’r farchnad. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost, dros y ffôn, mewn ffacs neu drwy’r post. Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i addasu’r wefan yn unol â’ch diddordebau.

Diogelwch
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. I atal mynediad neu ddatgeliad diawdurdod, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli priodol ar waith i ddiogelu ac amddiffyn yr wybodaeth a gasglwn ar-lein.

Am ba hyd y bydd eich data personol yn cael ei gadw
Yn absenoldeb unrhyw ofynion cyfreithiol, bydd eich data personol yn cael ei gadw cyhyd ag y bo angen at ddibenion ei ddefnyddio fel y rhestrir uchod. Mae hyn yn golygu y bydd eich data’n cael ei ddileu os byddwch yn tynnu’r caniatâd i brosesu yn ei ôl neu os nad oes angen y data mwyach neu os yw’n anghywir.

Sut i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch gwybodaeth
Hoffem i chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni os yw’r data personol sydd gennym ar eich rhan yn anghywir neu’n anghyflawn. Gofynnwn i ddiweddariadau i’ch data personol gael eu hanfon yn ysgrifenedig i Gwynedd Mobile Milling, cysylltwch â ni ar y manylion a nodir ar ddiwedd yr hysbysiad hwn.

Sut rydyn ni’n defnyddio cwcis
Ffeil fach yw cwci sy’n gofyn am ganiatâd i gael ei roi ar yriant caled eich cyfrifiadur. Unwaith y byddwch yn cytuno, ychwanegir y ffeil ac mae’r cwci’n helpu i ddadansoddi traffig y we neu’n rhoi gwybod i chi pan fyddwch yn ymweld â safle penodol. Mae cwcis yn caniatáu i raglenni gwe ymateb i chi fel unigolyn. Gall y rhaglen ar y we deilwra ei gweithrediadau i’ch anghenion, eich hoff a’ch cas bethau drwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau.

Rydym yn defnyddio cwcis cofnodi traffig i nodi pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data am draffig ar ein tudalennau gwe a gwella ein gwefan er mwyn ei theilwra i anghenion y cwsmeriaid. Dim ond at ddibenion dadansoddi ystadegol yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth hon, ac yna caiff y data ei dynnu o’r system.

Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwefan well i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau yr ydych yn eu cael yn ddefnyddiol a pha rai nad ydych. Nid yw cwci’n rhoi mynediad i ni i’ch cyfrifiadur nac unrhyw wybodaeth amdanoch chi mewn unrhyw ffordd, ar wahân i’r data rydych chi’n dewis ei rannu gyda ni.

Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch addasu gosodiad eich porwr i wrthod cwcis os byddai hynny’n well gennych. Gall hyn eich atal rhag manteisio’n llawn ar y wefan.

Eich hawliauEich hawliau
Mae gennych hawl i:

  1. Roi diweddariadau i ni a sicrhau cywiriad i unrhyw wallau yn eich data. Os hoffech ddiweddaru’r manylion sydd gennym amdanoch, cysylltwch â ni ar y manylion sydd ar ddiwedd yr hysbysiad hwn.
  2. Gofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. Efallai y byddwn yn gofyn i chi brofi pwy ydych chi. Cyflwynwch eich cais yn ysgrifenedig i’r manylion cyswllt a ddangosir ar ddiwedd yr hysbysiad hwn.
  3. Gofyn i ni ddileu eich data personol fel ei fod yn cael ei ddileu o’n cofnodion.
  4. Cyfyngu ar brosesu eich data personol h.y. os ydych yn herio cywirdeb y data.
  5. Gwrthwynebu mathau penodol o brosesu megis marchnata uniongyrchol.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gan gynnwys amgylchiadau lle maent yn berthnasol, cysylltwch â ni neu adolygwch y canllaw sydd ar gael yma; https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/individual-rights/

Gweithdrefnau Preifatrwydd
Enw rheolydd data’r cwmni yw Mr Geraint Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni, a gellir cysylltu â ef yn Gwynedd Mobile Milling Ltd,  Ffridd Bach, Gwrach Ynys, Talsarnau, Gwynedd LL47 6TS.

Ein prif meddalwedd rheoli data trydydd parti yw Gwefan Insynch, sy’n gofalu am ddata gwybodaeth bersonol, a gwybodaeth am y wefan. Hefyd, rydym yn defnyddio Laud Meredith & Co ar gyfer ein data cyfrifon. Mae’n bosibl bod darparwyr bach eraill yr ydym yn rhannu data â nhw ond y Cwmni sy’n rheoli’r data. Mae pob aelod o staff sydd â mynediad at y cyfleusterau hyn yn cael eu cynnwys a’u rhwymo gan Bolisi Preifatrwydd y Cwmni.

Rhaid rhoi gwybod i reolydd data’r Cwmni am unrhyw achosion o dorri diogelwch data. Bydd yn ystyried pa gamau i’w cymryd i ddiogelu’r data ac, os oes angen, bydd yn cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Bydd gan y rheolydd data awdurdod i gadw rheolaeth dros gyfrineiriau ar holl offer cyfrifiadurol y Cwmni, gan gynnwys yr holl liniaduron neu ddyfeisiau storio a symudir oddi ar y safle ac offer personol a ddefnyddir i gael gafael ar ddata o bell.

Bydd y rheolydd data yn sicrhau y bydd yr holl ddata personol yn cael ei gadw’n ddiogel ac yn penderfynu pwy sydd â’r hawl i gael mynediad o’r Cwmni.

Bydd y rheolydd data yn sicrhau bod y dogfennau polisi a gweithdrefnau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd ac o leiaf unwaith y flwyddyn.

Bydd y rheolydd data yn sicrhau bod y proseswyr data yn ymwybodol o’r rheoliadau, wedi’u hyfforddi ac yn deall eu rhwymedigaethau. Mae hyn yn cynnwys yr holl staff sy’n ymwneud â phrosesau data ac unrhyw asiantau trydydd parti sy’n gweithio dros dro i’r Cwmni.

Bydd y rheolydd data yn sicrhau bod data sy’n ymwneud â staff yn cael ei gadw’n ddiogel, bod datganiadau preifatrwydd yn cael eu cynnig ac os cânt eu llofnodi, eu bod yn cael cofnodi a’u storio’n ddiogel a bod unrhyw ddata nad yw’n berthnasol yn cael ei ddinistrio unwaith y byddant yn gadael eu swydd.

Bydd y rheolydd data yn derbyn unrhyw geisiadau gan aelodau o’r cyhoedd neu staff sy’n awyddus i wybod faint o ddata sydd gan y Cwmni arnynt, lle y’i cafwyd a pham y caiff ei storio. Bydd y rheolydd data hefyd yn cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar ran y Cwmni.  Bydd y rheolydd data yn ymateb i geisiadau mewn modd amserol gan gadw at y gofyniad cyfreithiol o 30 diwrnod.

Bydd y rheolydd data yn creu unrhyw asesiadau effaith sy’n ofynnol drwy newid y rheolydd data, neu broseswyr data trydydd parti.

Ymholiadau a Chwynion

 

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau sy’n deillio o’r hysbysiad preifatrwydd hwn. Lle bo modd, cyflwynwch bob ymholiad yn ysgrifenedig.

Os ydych yn anhapus â’r ffordd yr ydym yn trin eich data neu rywbeth yr ydym wedi’i wneud neu wedi methu â’i wneud, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig. Byddwn yn cydnabod pob cwyn a ddaw i law a byddwn yn ymdrechu i ymchwilio i’r gŵyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Dylid anfon pob cwyn at:

Gwynedd Mobile Milling
Gwrach Ynys
Talsarnau
Gwynedd LL47 6TS
E bost geraint@gwyneddmobilemilling.co.uk
Gwefan www.gwyneddmobilemilling.co.uk
Ffon 01766 787742

Gallwch hefyd gwyno’n uniongyrchol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn bryderus am y ffordd yr ydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol. Dangosir eu manylion cyswllt isod:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF
Ffon 0303123 1113 or 01625 545745
Gwefan www.ico.gov.uk

Adolygiad o’r Hysbysiad Preifatrwydd
Adolygwyd yr Hysbysiad hwn ddiwethaf ym mis Ionawr 2021. Gall cynnwys y polisi gael ei adolygu a’i newid heb rybudd ymlaen llaw, edrychwch ar yr hysbysiad ar ein gwefan am unrhyw newidiadau.