Cladin
Hen hen dechneg i arbed rhag y tywydd yw cladin ac erbyn hyn mae’n cael ei defnyddio’n helaeth yn y diwydiant adeiladu. Mae’r term cladin yn cyfeirio at orchudd allanol ar adeilad a’r cydrannau sy’n cael eu defnyddio i gyflawni hynny. Mae cladin yn cael ei alw’n fyrddau tywydd hefyd weithiau, a gall wella a gweddnewid amrywiaeth o adeiladau trwy roi gorffeniad amddiffynnol naturiol sy’n ddeniadol ac yn effeithiol.
Cladin wedi’i Lifio
Gall y proffil llifio sy’n cael ei ddewis effeithio ar nodweddion y cladin a’i olwg esthetig.
Cladin ymyl di-lif
Mae cladin ymyl di-lif yn fath traddodiadol iawn o gladin sydd fel arfer yn gysylltiedig â’r tu allan i adeiladau fel tai, ysguboriau a modurdai. Mae’r byrddau’n cael eu torri’n uniongyrchol o’r boncyff gan adael un ymyl syth ac un ymyl di-lif gyda’r rhisgl yn dal arni. Mae’r byrddau’n cael eu codi’n llorweddol, gyda phob ymyl di-lif yn gorgyffwrdd ag ymyl syth i roi’r golwg gwledig nodweddiadol.
Cladin ymyl plufyn
Mae cladin ymyl plufyn yn ddull traddodiadol arall ond heb olwg wledig yr ymyl di-lif. Mae byrddau ag ymylon syth yn cael eu hollti drwy osod y llif ar ongl, sy’n arwain at ddau fwrdd taprog. Yna mae’r rhain yn cael eu codi’n llorweddol ac yn gorgyffwrdd yn fertigol i roi gorffeniad â phroffil cadarn.
Cladin ymyl syth
Cladin ymyl syth – mae estyll sydd wedi’u llifio’n fras mewn ystod o ledau gwahanol yn gorgyffwrdd i ffurfio cladin llorweddol neu’n cael eu codi’n fertigol i ffurfio estyll Swydd Efrog neu gladin bwrdd-agored. Mae byrddau cladin ag ymylon syth yn cael eu darparu’n wyrdd (gwlyb) â gorffeniad wedi’i lifio, ond mae’n bosibl planio’r byrddau’n llyfn ar gais.
More Information
Information on Sawn Cladding
Mae cladin wedi’i lifio fel arfer yn cael ei adael heb ei drin gan adael gorffeniad naturiol sy’n caniatáu i briodweddau cynhenid y pren wrthsefyll pydredd a phryfed. Dros amser, drwy fod yn agored i’r tywydd bydd cladin allanol yn hindreulio ac yn newid ei liw i liw arian neu lwyd. Mae cladin wedi’i lifio fel arfer yn cael ei adael heb ei drin gan adael gorffeniad naturiol sy’n caniatáu i briodweddau cynhenid y pren wrthsefyll pydredd a phryfed. Dros amser, drwy fod yn agored i’r tywydd bydd cladin allanol yn hindreulio ac yn newid ei liw i liw arian neu lwyd.
Y rhywogaethau pren mwyaf poblogaidd a ddefnyddir mewn cladin yw: –
• Cedrwydden – pren meddal sy’n ysgafn o ran pwysau, gyda dwysedd cymharol isel. Er hynny, dyma un o’r coed mwyaf addas i’w defnyddio ar gyfer cladin allanol gan ei fod yn sefydlog, heb fod yn dueddol o hindreulio ac yn gwrthsefyll pydredd yn dda. Mae hefyd yn boblogaidd oherwydd ei briodweddau esthetig, gan amrywio o frown i felyn neu hyd yn oed pinc.
• Ffynidwydden Douglas – pren meddal sy’n bur wydn, sydd heb lawer o glymau ac sy’n amrywio o ran lliw o frown golau i frowngoch. Mae’n bren rhagorol ar gyfer cladin ar dai haf, siediau gardd, ysguboriau, tai. Mae’n dda at lawer o ddibenion, sy’n golygu ei fod yn addas hefyd ar gyfer deciau, lloriau a ffensys.
• Llarwydden – pren meddal ond dwys iawn sy’n fwy trwchus na llawer o brennau caled. Mae Llarwydden yn rhywogaeth sy’n dda at lawer o ddibenion. Mae’n gwneud cladin allanol rhagorol ac yn addas ar gyfer prosiectau decio a lloriau. Gall calon pren Llarwydden amrywio o felyn golau i felyn canolig yr un lliw â gwellt: i roi gorffeniad naturiol mae hwn yn bren gwych i’w ddewis.
• Derw yw’r pren caled dwysedd uchel clasurol. Lliw euraidd-frown sydd iddo a bydd yn hindreulio wrth heneiddio nes troi’n ariannaidd os na chaiff ei drin. Mae’r graen yn syth ar y cyfan, ond gall amodau twf beri i hyn amrywio. Ar gyfer cladin allanol mewn pren caled hirdymor sy’n ddymunol yn esthetig, derw yw’r pren dewisol, er ei fod yn fwy costus.